RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 2GWAREDIADAU TRETHADWY

4Gwaredu deunydd drwy dirlenwi

(1)

Gwaredir deunydd drwy dirlenwi os caiff deunydd—

(a)

ei ddodi ar wyneb y tir neu ar strwythur sydd wedi ei osod yn y tir, neu

(b)

ei ddodi o dan wyneb y tir (er enghraifft, mewn ceudod megis ogof neu gloddfa).

(2)

Mae is-adran (1) yn gymwys pa un a osodir y deunydd mewn cynhwysydd cyn ei ddodi ai peidio.

(3)

Caiff rheoliadau addasu ystyr gwaredu deunydd drwy dirlenwi (gan gynnwys drwy ddiwygio’r adran hon neu unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â’r dreth).