RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH
Cofrestru
37Canslo cofrestriad
(1)
Rhaid i berson cofrestredig sy’n peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais ysgrifenedig i ACC i ganslo cofrestriad y person hwnnw.
(2)
Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy.
(3)
Caiff ACC ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni bod y person wedi peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy (pa un a yw’r person wedi gwneud cais i ganslo’r cofrestriad ai peidio).
(4)
Ond ni chaiff ACC ganslo cofrestriad y person oni bai ei fod wedi ei fodloni
(b)
bod yr holl gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo ac y mae’r person wedi ei hawlio—
(i)
wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i’r person ei dalu, neu
(ii)
wedi ei dalu i’r person.
(5)
Caiff ACC hefyd ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni nad yw’r person wedi cyflawni gweithrediadau trethadwy ac nad yw’n bwriadu gwneud hynny.
(6)
Os yw ACC yn canslo cofrestriad person, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y canslo i’r person.