RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH

Cofrestru

36Newidiadau a chywiro gwybodaeth

1

Rhaid i berson cofrestredig roi hysbysiad i ACC am unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n peri i gofnod y person yn y gofrestr fod yn anghywir.

2

Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid yn digwydd.

3

Rhaid i berson sydd wedi darparu gwybodaeth i ACC at ddiben sy’n ymwneud â chofrestru roi hysbysiad i ACC os yw’r person yn darganfod bod unrhyw ran o’r wybodaeth yn anghywir.

4

Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n ddechrau â’r diwrnod y mae’r person yn darganfod yr anghywirdeb.

5

Os yw ACC wedi ei fodloni bod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr yn anghywir, caiff gywiro’r gofrestr (pa un a yw’r person cofrestredig y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi rhoi hysbysiad i ACC am yr anghywirdeb ai peidio).

6

Os yw ACC yn cywiro cofnod person yn y gofrestr, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r person yn nodi’r cofnod fel y’i cywirwyd.