Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Valid from 25/01/2018

35Dyletswydd i fod yn gofrestredigLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC.

(2)Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy ond nad yw wedi ei gofrestru—

(a)gwneud cais ysgrifenedig i ACC i gael ei gofrestru, a

(b)gwneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy.

(3)Rhaid i ACC gofrestru’r person os yw wedi ei fodloni bod y cais—

(a)yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan ACC i gofrestru’r person, a

(b)ar y ffurf a bennir gan ACC (os o gwbl).

(4)Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais.

(5)Os yw ACC yn cofrestru’r person, rhaid i’r hysbysiad nodi cofnod y person yn y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)