Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

3Gwarediadau trethadwyLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Gwneir gwarediad trethadwy pan fo’r holl amodau a ganlyn wedi eu bodloni.

(2)Amod 1 yw bod deunydd yn cael ei waredu drwy dirlenwi (gweler adran 4).

(3)Amod 2 yw naill ai—

(a)bod y tir lle y gwneir y gwarediad yn safle tirlenwi awdurdodedig, neu’n rhan o safle o’r fath (gweler adran 5(1)), neu

(b)bod trwydded amgylcheddol yn ofynnol ar gyfer y gwarediad (gweler adran 5(2)) ond nad yw’r tir lle y’i gwneir yn safle tirlenwi awdurdodedig, nac yn rhan o safle o’r fath.

(4)Amod 3 yw bod y gwarediad yn warediad o’r deunydd fel gwastraff (gweler adrannau 6 a 7).

(5)Amod 4 yw bod y gwarediad yn cael ei wneud yng Nghymru.

(6)Gweler hefyd adran 8 ar gyfer mathau o weithgarwch safle tirlenwi penodedig sydd i’w trin fel gwarediadau trethadwy (pa un a fodlonir yr amodau uchod ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 3 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3