RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH
29Defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy
(1)
Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw—
(b)
yn rhan o waith adfer a gyflawnir yn unol â chymeradwyaeth a roddir gan ACC.
(2)
Ni chaiff ACC gymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig onid yw—
(a)
gweithredwr y safle yn gwneud cais ysgrifenedig i ACC am y gymeradwyaeth,
(b)
y cais yn cael ei wneud cyn i’r gwaith adfer ddechrau, ac
(c)
ACC wedi ei fodloni bod y gwaith yn ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle.
(3)
Caiff cymeradwyaeth—
(a)
ymwneud â’r holl waith a ddisgrifir yn y cais am y gymeradwyaeth neu ran ohono;
(b)
ymwneud â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r gymeradwyaeth gael ei rhoi neu a gyflawnir ar ôl hynny (neu’r ddau);
(c)
bod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud rhoi adroddiadau i ACC ynglŷn â chyflawni’r gwaith yn ofynnol).