RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 3RHYDDHAD RHAG TRETH

29Defnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle cymeradwy

(1)

Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw—

(a)

yn warediad deunydd sy’n ddeunydd cymwys i gyd, a

(b)

yn rhan o waith adfer a gyflawnir yn unol â chymeradwyaeth a roddir gan ACC.

(2)

Ni chaiff ACC gymeradwyo cyflawni gwaith adfer ar safle tirlenwi awdurdodedig onid yw⁠—

(a)

gweithredwr y safle yn gwneud cais ysgrifenedig i ACC am y gymeradwyaeth,

(b)

y cais yn cael ei wneud cyn i’r gwaith adfer ddechrau, ac

(c)

ACC wedi ei fodloni bod y gwaith yn ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle.

(3)

Caiff cymeradwyaeth—

(a)

ymwneud â’r holl waith a ddisgrifir yn y cais am y gymeradwyaeth neu ran ohono;

(b)

ymwneud â gwaith a gyflawnwyd cyn i’r gymeradwyaeth gael ei rhoi neu a gyflawnir ar ôl hynny (neu’r ddau);

(c)

bod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud rhoi adroddiadau i ACC ynglŷn â chyflawni’r gwaith yn ofynnol).