Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

28Deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarelaLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae gwarediad trethadwy wedi ei ryddhau rhag treth os yw’n warediad deunydd—

(a)sydd i gyd yn deillio o weithrediadau mwyngloddio (boed yn fwyngloddio dwfn neu’n fwyngloddio brig) neu o weithrediadau chwarela,

(b)sydd i gyd yn ddeunydd sy’n bodoli’n naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yng nghwrs y gweithrediadau, ac

(c)nad oes dim ohono wedi bod yn destun proses o fewn is-adran (2) a gynhaliwyd ar unrhyw gam rhwng yr echdynnu a’r gwaredu, nac wedi deillio ohoni.

(2)Mae proses o fewn yr is-adran hon os yw—

(a)ar wahân i’r gweithrediadau mwyngloddio neu chwarela, neu

(b)yn rhan o’r gweithrediadau hynny ac yn newid cyfansoddiad cemegol y deunydd yn barhaol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 28 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3