xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r Bennod hon yn darparu rhyddhad rhag treth ar gyfer gwarediadau trethadwy penodol.
(2)Nid yw’r Bennod hon ond yn gymwys i warediadau a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig.
(3)Nid yw’r dreth i’w chodi mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy os yw wedi ei ryddhau rhag treth.
(4)Rhaid hawlio rhyddhad rhag treth ar ffurflen dreth.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 26 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(d)