RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY

Pwysau trethadwy deunydd

23Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC: achosion o beidio â chydymffurfio

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.

(2)

Pan fo ACC wedi ei fodloni bod gweithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy wedi methu â dychwelyd ffurflen dreth mewn perthynas â’r gwarediad, caiff ACC anwybyddu adran 22(1)(b).

(3)

Pan fo ACC wedi ei fodloni bod gweithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy wedi methu â phennu pwysau’r deunydd yn y gwarediad yn unol ag adran 20, caiff ACC⁠—

(a)

anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)

gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(4)

Pan fo ACC wedi ei fodloni—

(a)

bod gan weithredwr y safle lle y gwneir gwarediad trethadwy gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, ond

(b)

ei fod yn torri amod sydd ynghlwm â’r gymeradwyaeth,

caiff ACC gymryd y camau a nodir yn is-adran (5).

(5)

Caiff ACC

(a)

anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)

gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(6)

Pan fo ACC wedi ei fodloni nad oes cofnod disgownt dŵr mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy, caiff ACC anwybyddu adran 22(1)(b).

(7)

Pan fo ACC wedi ei fodloni nad yw’r cofnod disgownt dŵr mewn cysylltiad â gwarediad trethadwy yn bodloni gofyniad a bennir o dan adran 21(7), caiff ACC

(a)

anwybyddu adran 22(1)(b), neu

(b)

gostwng y disgownt sydd i’w gymhwyso o dan adran 22(1)(b) fel y bo’n briodol yn ei farn.

(8)

Yn yr adran hon, mae i “cofnod disgownt dŵr” yr ystyr a roddir gan adran 21(6).