22Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACCLL+C
(1)Pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid iddo wneud hynny—
(a)drwy bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli gan ddefnyddio unrhyw ddull sy’n briodol ym marn ACC, a
(b)pan fo cymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, drwy gymhwyso’r disgownt i’r pwysau a bennir o dan baragraff (a), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).
(2)Ond os yw wedi ei fodloni bod methiant neu doriad a grybwyllir yn adran 23 wedi digwydd mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy, caiff ACC, wrth gyfrifo’r pwysau, gymryd y camau a nodir yn yr adran honno mewn cysylltiad â’r methiant neu’r toriad.
(3)Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 22 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3