RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY
Pwysau trethadwy deunydd
22Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC
(1)
Pan fo ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid iddo wneud hynny—
(a)
drwy bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli gan ddefnyddio unrhyw ddull sy’n briodol ym marn ACC, a
(b)
pan fo cymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, drwy gymhwyso’r disgownt i’r pwysau a bennir o dan baragraff (a), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).
(2)
Ond os yw wedi ei fodloni bod methiant neu doriad a grybwyllir yn adran 23 wedi digwydd mewn perthynas â’r gwarediad trethadwy, caiff ACC, wrth gyfrifo’r pwysau, gymryd y camau a nodir yn yr adran honno mewn cysylltiad â’r methiant neu’r toriad.
(3)
Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.