RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY
Pwysau trethadwy deunydd
21Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunydd
(1)
Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.
(2)
Rhaid i gais am gymeradwyaeth gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.
(3)
Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—
(a)
rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a
(b)
os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.
(4)
Ni chaiff ACC roi cymeradwyaeth i’r gweithredwr gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd onid yw—
(a)
y dŵr yno oherwydd—
(i)
bod rhaid ei ychwanegu er mwyn gallu cludo’r deunydd i’w waredu,
(ii)
bod rhaid ei ddefnyddio i echdynnu mwyn,
(iii)
bod rhaid ei ychwanegu yng nghwrs proses ddiwydiannol, neu
(iv)
ei fod yn deillio’n anochel o ganlyniad i broses ddiwydiannol, neu
(b)
y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr.
(5)
Mewn perthynas â chymeradwyaeth—
(a)
caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;
(b)
caiff bennu disgowntiau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o warediadau trethadwy;
(c)
caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud taliad yn ofynnol mewn cysylltiad â phrofion ar ddeunydd);
(d)
caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;
(e)
caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.
(6)
Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gadw cofnod o bob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd (sef “cofnod disgownt dŵr”).
(7)
Caiff ACC bennu—
(a)
ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw cofnod disgownt dŵr;
(b)
yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.
(8)
Mae’r cofnod i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r gweithredwr ei dychwelyd, mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y mae treth i’w chodi ar y gwarediad mewn cysylltiad ag ef, yn gywir ac yn gyflawn.