xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.
(2)Rhaid i gais am gymeradwyaeth gael ei gyflwyno mewn ysgrifen.
(3)Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—
(a)rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a
(b)os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.
(4)Ni chaiff ACC roi cymeradwyaeth i’r gweithredwr gymhwyso disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd onid yw—
(a)y dŵr yno oherwydd—
(i)bod rhaid ei ychwanegu er mwyn gallu cludo’r deunydd i’w waredu,
(ii)bod rhaid ei ddefnyddio i echdynnu mwyn,
(iii)bod rhaid ei ychwanegu yng nghwrs proses ddiwydiannol, neu
(iv)ei fod yn deillio’n anochel o ganlyniad i broses ddiwydiannol, neu
(b)y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr.
(5)Mewn perthynas â chymeradwyaeth—
(a)caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;
(b)caiff bennu disgowntiau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o warediadau trethadwy;
(c)caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n gwneud taliad yn ofynnol mewn cysylltiad â phrofion ar ddeunydd);
(d)caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;
(e)caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.
(6)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gadw cofnod o bob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt iddo mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd (sef “cofnod disgownt dŵr”).
(7)Caiff ACC bennu—
(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw cofnod disgownt dŵr;
(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.
(8)Mae’r cofnod i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r gweithredwr ei dychwelyd, mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu y mae treth i’w chodi ar y gwarediad mewn cysylltiad ag ef, yn gywir ac yn gyflawn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 21(1)-(5)(7) mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(c)