RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY
Pwysau trethadwy deunydd
20Pennu pwysau deunydd gan y gweithredwr
(1)
Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy gan ddefnyddio pont bwyso.
(2)
Rhaid i’r gweithredwr sicrhau, at ddibenion is-adran (1)—
(a)
bod y deunydd yn cael ei bwyso ar y bont bwyso cyn y gwneir y gwarediad, a
(b)
bod y bont bwyso yn bodloni pob un o’r gofynion mewn deddfwriaeth pwysau a mesurau sy’n gymwys i’r bont bwyso (os oes rhai).
(3)
Caiff gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.
(4)
Rhaid i gais—
(a)
cael ei gyflwyno mewn unrhyw fodd,
(b)
cynnwys unrhyw wybodaeth, ac
(c)
cael ei gyflwyno gydag unrhyw ddogfennau,
a bennir gan ACC (naill ai’n gyffredinol neu mewn achos penodol).
(5)
Pan fo’r gweithredwr yn gwneud cais am gymeradwyaeth—
(a)
rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr am ei benderfyniad ar y cais, a
(b)
os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad nodi manylion y gymeradwyaeth.
(6)
Mewn perthynas â chymeradwyaeth—
(a)
caiff ymwneud â’r holl warediadau trethadwy y gwneir y cais mewn cysylltiad â hwy, neu â disgrifiadau penodol o’r gwarediadau trethadwy hynny yn unig;
(b)
caiff fod yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau;
(c)
caniateir ei rhoi am gyfnod penodedig neu am gyfnod anghyfyngedig;
(d)
caniateir ei hamrywio neu ei dirymu ar unrhyw adeg drwy ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr.
(7)
Os yw ACC yn rhoi cymeradwyaeth i’r gweithredwr ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy, rhaid i’r gweithredwr—
(a)
defnyddio’r dull hwnnw mewn perthynas â’r gwarediad (yn hytrach na’r dull a ddisgrifir yn is-adran (1)), a
(b)
gwneud hynny yn unol ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo.
(8)
Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth pwysau a mesurau” yw Deddf Pwysau a Mesurau 1985 (p. 72) a rheoliadau a wneir (yn llwyr neu yn rhannol) o dan y Ddeddf honno.