xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn y ffordd a ganlyn.
(2)Rhaid i’r gweithredwr bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli yn unol ag adran 20.
(3)Os oes gan y gweithredwr gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, caiff y gweithredwr gymhwyso’r disgownt (neu ddisgownt is) i’r pwysau a bennir o dan is-adran (2), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).
(4)Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 19 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3