RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY
Pwysau trethadwy deunydd
19Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan y gweithredwr
(1)
Rhaid i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn y ffordd a ganlyn.
(2)
Rhaid i’r gweithredwr bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli yn unol ag adran 20.
(3)
Os oes gan y gweithredwr gymeradwyaeth o dan adran 21 i gymhwyso disgownt mewn perthynas â’r gwarediad, caiff y gweithredwr gymhwyso’r disgownt (neu ddisgownt is) i’r pwysau a bennir o dan is-adran (2), yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).
(4)
Y canlyniad yw pwysau trethadwy’r deunydd yn y gwarediad trethadwy.