RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY
Pwysau trethadwy deunydd
18Pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy
(1)
Mewn perthynas â phwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig—
(a)
rhaid i weithredwr y safle lle y gwneir y gwarediad trethadwy ei gyfrifo;
(b)
caiff ACC ei gyfrifo os yw o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.
(2)
Mae’r pwysau trethadwy i’w gyfrifo—
(a)
yn unol ag adran 19, os y’i cyfrifir gan y gweithredwr;
(b)
yn unol ag adran 22, os y’i cyfrifir gan ACC.
(3)
Pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5)—
(a)
pan na fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a
(b)
pan fo ACC—
(i)
yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd, a
(ii)
yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr mewn cysylltiad â’r gwarediad,
yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan ACC, oni bai bod y gweithredwr yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (4) wedi hynny.
(4)
Pan fo’r gweithredwr—
(a)
yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd, a
(b)
yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddychwelyd neu ddiwygio ffurflen dreth mewn cysylltiad â’r gwarediad,
pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5) yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan y gweithredwr, oni bai bod ACC yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (5) wedi hynny.
(5)
Pan fo ACC—
(a)
yn cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd ar ôl i ffurflen dreth gael ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r gwarediad, a
(b)
yn cymhwyso’r canlyniad wrth ddyroddi hysbysiad i’r gweithredwr mewn cysylltiad â’r gwarediad,
pwysau trethadwy’r deunydd at ddibenion adran 14(2) a (5) yw’r pwysau trethadwy a gyfrifir gan ACC, oni bai bod y gweithredwr yn cymryd y camau a nodir yn is-adran (4) wedi hynny.