Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

17Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mânLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau ragnodi gofynion y mae’n rhaid eu bodloni (yn ychwanegol at ofynion 1 i 6 yn adran 16) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu (ymysg pethau eraill) bod—

(a)rhaid i’r cymysgedd fod wedi tarddu mewn modd rhagnodedig (er enghraifft, drwy broses trin gwastraff ragnodedig);

(b)rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â natur y gronynnau mân yn y cymysgedd;

(c)rhaid i gamau rhagnodedig fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r cymysgedd (naill ai gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig neu gan unrhyw berson arall);

(d)rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â chymryd y camau hynny;

(e)rhaid i’r cymysgedd roi canlyniad rhagnodedig os cynhelir prawf rhagnodedig arno.

(3)Pan wneir rheoliadau o dan is-adran (2)(e), caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth gysylltiedig, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal y prawf rhagnodedig (“y prawf”) ar gymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân;

(b)sy’n pennu pryd y mae’n rhaid i’r gweithredwr wneud hynny;

(c)sy’n galluogi ACC

(i)i gyfarwyddo’r gweithredwr i gynnal y prawf ar bob cymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle, neu ar ddisgrifiadau penodol o’r cymysgeddau hynny o ronynnau mân;

(ii)i gynnal y prawf ei hun ar unrhyw gymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle;

(d)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC a’r gweithredwr—

(i)cadw tystiolaeth ragnodedig mewn cysylltiad â’r prawf, a

(ii)ei storio’n ddiogel am gyfnod rhagnodedig;

(e)sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ragnodedig i ACC mewn cysylltiad â’r prawf—

(i)ar gyfnodau rhagnodedig, a

(ii)yn y ffurf a’r modd rhagnodedig;

(f)sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i’r gweithredwr gymryd camau rhagnodedig os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf;

(g)sy’n gwahardd cymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau mewn amgylchiadau rhagnodedig.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cosbau, neu

(b)adolygiadau ac apelau,

mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr is-adran honno; a phan fyddant yn gwneud hynny, cânt ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

(5)Caiff unrhyw reoliadau o dan yr adran hon, ac eithrio rheoliadau sy’n rhoi pwerau i ACC neu’n gosod dyletswyddau arno, wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a gyhoeddwyd wedi hynny).

(6)Yn yr adran hon—

  • ystyr “gronynnau mân” (“fines”) yw gronynnau a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy’n cynnwys elfen fecanyddol;

  • ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn reoliadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 17 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/955, ergl. 2(b)