RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY
Deunyddiau cymwys a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau
17Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân
(1)
Caiff rheoliadau ragnodi gofynion y mae’n rhaid eu bodloni (yn ychwanegol at ofynion 1 i 6 yn adran 16) er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy’n cynnwys dim ond gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.
(2)
Caiff y rheoliadau ddarparu (ymysg pethau eraill) bod—
(a)
rhaid i’r cymysgedd fod wedi tarddu mewn modd rhagnodedig (er enghraifft, drwy broses trin gwastraff ragnodedig);
(b)
rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â natur y gronynnau mân yn y cymysgedd;
(c)
rhaid i gamau rhagnodedig fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r cymysgedd (naill ai gan weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig neu gan unrhyw berson arall);
(d)
rhaid bod tystiolaeth ragnodedig ynglŷn â chymryd y camau hynny;
(e)
rhaid i’r cymysgedd roi canlyniad rhagnodedig os cynhelir prawf rhagnodedig arno.
(3)
Pan wneir rheoliadau o dan is-adran (2)(e), caiff rheoliadau hefyd wneud darpariaeth gysylltiedig, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—
(a)
sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig gynnal y prawf rhagnodedig (“y prawf”) ar gymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân;
(b)
sy’n pennu pryd y mae’n rhaid i’r gweithredwr wneud hynny;
(c)
sy’n galluogi ACC—
(i)
i gyfarwyddo’r gweithredwr i gynnal y prawf ar bob cymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle, neu ar ddisgrifiadau penodol o’r cymysgeddau hynny o ronynnau mân;
(ii)
i gynnal y prawf ei hun ar unrhyw gymysgedd o ronynnau mân a ddygir ar y safle;
(d)
sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC a’r gweithredwr—
(i)
cadw tystiolaeth ragnodedig mewn cysylltiad â’r prawf, a
(ii)
ei storio’n ddiogel am gyfnod rhagnodedig;
(e)
sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ragnodedig i ACC mewn cysylltiad â’r prawf—
(i)
ar gyfnodau rhagnodedig, a
(ii)
yn y ffurf a’r modd rhagnodedig;
(f)
sy’n ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i’r gweithredwr gymryd camau rhagnodedig os yw cymysgedd o ronynnau mân yn methu’r prawf;
(g)
sy’n gwahardd cymysgeddau rhagnodedig o ronynnau mân rhag cael eu trin fel cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau mewn amgylchiadau rhagnodedig.
(4)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) wneud darpariaeth ar gyfer—
(a)
cosbau, neu
(b)
adolygiadau ac apelau,
mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan yr is-adran honno; a phan fyddant yn gwneud hynny, cânt ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.
(5)
Caiff unrhyw reoliadau o dan yr adran hon, ac eithrio rheoliadau sy’n rhoi pwerau i ACC neu’n gosod dyletswyddau arno, wneud darpariaeth drwy gyfeirio at bethau a bennir mewn hysbysiad a gyhoeddwyd gan ACC (ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl drwy hysbysiad a gyhoeddwyd wedi hynny).
(6)
Yn yr adran hon—
ystyr “gronynnau mân” (“fines”) yw gronynnau a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy’n cynnwys elfen fecanyddol;
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn reoliadau.