16Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiauLL+C
(1)Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yw cymysgedd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.
- Gofyniad 1 - Mae’r cymysgedd ar ffurf— (a)- un deunydd cymwys neu ragor, a (b)- swm bychan o un deunydd anghymwys neu ragor sy’n atodol i’r deunyddiau cymwys. 
- Gofyniad 2 - Ceir— (a)- os yw disgrifiad ysgrifenedig o’r cymysgedd yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), ddisgrifiad ysgrifenedig o’r math sy’n ofynnol, neu (b)- os nad yw disgrifiad ysgrifenedig o’r cymysgedd yn ofynnol yn rhinwedd yr adran honno, dystiolaeth arall, - y gellir penderfynu ar ei sail bod gofyniad 1 wedi ei fodloni. 
- Gofyniad 3 - Nid yw’r deunyddiau anghymwys wedi eu cymysgu’n fwriadol â’r deunyddiau cymwys at ddibenion— (a)- gwaredu, neu (b)- materion sy’n ymwneud â pharatoi i waredu. 
- Gofyniad 4 - Nid yw’r deunyddiau anghymwys yn cynnwys unrhyw ddeunydd a ragnodir fel deunydd na chaniateir ei gynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau. 
- Gofyniad 5 - Nid yw’r cymysgedd yn wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 19 Tachwedd 2008. 
- Gofyniad 6 - Ni wnaed unrhyw drefniadau mewn cysylltiad â’r cymysgedd y mae osgoi atebolrwydd i’r dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion. 
- Gofyniad 7 - Os yw’r cymysgedd yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, mae unrhyw ofyniad a ragnodir o dan adran 17(1) (naill ai mewn perthynas â chymysgeddau yn gyffredinol neu mewn perthynas â chymysgeddau o’r disgrifiad penodol hwnnw) wedi ei fodloni mewn cysylltiad â’r cymysgedd. 
(2)At ddibenion gofyniad 1—
(a)rhaid ystyried pwysau a chyfaint y deunyddiau anghymwys wrth benderfynu a yw swm y deunyddiau hynny i’w drin fel swm bychan ai peidio;
(b)rhaid ystyried potensial y deunyddiau anghymwys i beri niwed wrth benderfynu a yw’r deunyddiau hynny i’w trin fel pe baent yn atodol i’r deunyddiau cymwys ai peidio.
(3)Caiff rheoliadau ddarparu nad yw swm o ddeunyddiau anghymwys i’w drin fel swm bychan at ddibenion gofyniad 1 os yw’n fwy na chanran ragnodedig o’r cymysgedd o ddeunyddiau (yn ôl pwysau neu gyfaint neu’r ddau).
(4)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn—
(a)ychwanegu gofyniad pellach at is-adran (1),
(b)addasu gofyniad presennol,
(c)dileu gofyniad, neu
(d)gwneud darpariaeth bellach ynghylch materion y mae’n rhaid eu hystyried neu y caniateir eu hystyried at ddibenion penderfynu a yw gofyniad wedi ei fodloni, neu addasu neu ddileu darpariaeth bresennol ynghylch y materion hynny.
(5)Yn yr adran hon—
- ystyr “deunydd anghymwys” (“non-qualifying material”) yw deunydd nad yw’n ddeunydd cymwys; 
- mae i “gronynnau mân” (“fines”) yr ystyr a roddir yn adran 17(6); 
- ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn rheoliadau; 
- mae i “trefniant” (“arrangement”) yr ystyr a roddir yn adran 81B(3) o DCRhT. 
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 16 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
