RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY

Deunyddiau cymwys a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

16Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

(1)

Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau yw cymysgedd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

  • Gofyniad 1

    Mae’r cymysgedd ar ffurf—

    1. (a)

      un deunydd cymwys neu ragor, a

    2. (b)

      swm bychan o un deunydd anghymwys neu ragor sy’n atodol i’r deunyddiau cymwys.

  • Gofyniad 2

    Ceir—

    1. (a)

      os yw disgrifiad ysgrifenedig o’r cymysgedd yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), ddisgrifiad ysgrifenedig o’r math sy’n ofynnol, neu

    2. (b)

      os nad yw disgrifiad ysgrifenedig o’r cymysgedd yn ofynnol yn rhinwedd yr adran honno, dystiolaeth arall,

    y gellir penderfynu ar ei sail bod gofyniad 1 wedi ei fodloni.

  • Gofyniad 3

    Nid yw’r deunyddiau anghymwys wedi eu cymysgu’n fwriadol â’r deunyddiau cymwys at ddibenion—

    1. (a)

      gwaredu, neu

    2. (b)

      materion sy’n ymwneud â pharatoi i waredu.

  • Gofyniad 4

    Nid yw’r deunyddiau anghymwys yn cynnwys unrhyw ddeunydd a ragnodir fel deunydd na chaniateir ei gynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau.

  • Gofyniad 5

    Nid yw’r cymysgedd yn wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 19 Tachwedd 2008.

  • Gofyniad 6

    Ni wnaed unrhyw drefniadau mewn cysylltiad â’r cymysgedd y mae osgoi atebolrwydd i’r dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion.

  • Gofyniad 7

    Os yw’r cymysgedd yn gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân, mae unrhyw ofyniad a ragnodir o dan adran 17(1) (naill ai mewn perthynas â chymysgeddau yn gyffredinol neu mewn perthynas â chymysgeddau o’r disgrifiad penodol hwnnw) wedi ei fodloni mewn cysylltiad â’r cymysgedd.

(2)

At ddibenion gofyniad 1—

(a)

rhaid ystyried pwysau a chyfaint y deunyddiau anghymwys wrth benderfynu a yw swm y deunyddiau hynny i’w drin fel swm bychan ai peidio;

(b)

rhaid ystyried potensial y deunyddiau anghymwys i beri niwed wrth benderfynu a yw’r deunyddiau hynny i’w trin fel pe baent yn atodol i’r deunyddiau cymwys ai peidio.

(3)

Caiff rheoliadau ddarparu nad yw swm o ddeunyddiau anghymwys i’w drin fel swm bychan at ddibenion gofyniad 1 os yw’n fwy na chanran ragnodedig o’r cymysgedd o ddeunyddiau (yn ôl pwysau neu gyfaint neu’r ddau).

(4)

Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn—

(a)

ychwanegu gofyniad pellach at is-adran (1),

(b)

addasu gofyniad presennol,

(c)

dileu gofyniad, neu

(d)

gwneud darpariaeth bellach ynghylch materion y mae’n rhaid eu hystyried neu y caniateir eu hystyried at ddibenion penderfynu a yw gofyniad wedi ei fodloni, neu addasu neu ddileu darpariaeth bresennol ynghylch y materion hynny.

(5)

Yn yr adran hon—

ystyr “deunydd anghymwys” (“non-qualifying material”) yw deunydd nad yw’n ddeunydd cymwys;

mae i “gronynnau mân” (“fines”) yr ystyr a roddir yn adran 17(6);

ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi mewn rheoliadau;

mae i “trefniant” (“arrangement”) yr ystyr a roddir yn adran 81B(3) o DCRhT.