RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY

Deunyddiau cymwys a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

15Deunydd cymwys

(1)

Deunydd cymwys yw deunydd y mae’r gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef.

  • Gofyniad 1

    Mae’r deunydd wedi ei bennu yn y Tabl yn Atodlen 1.

  • Gofyniad 2

    Mae pob amod yn y Tabl yn Atodlen 1 sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunydd (os oes rhai) wedi ei fodloni.

  • Gofyniad 3

    Ceir—

    1. (a)

      os yw disgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1)(c)(ii) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43), ddisgrifiad ysgrifenedig o’r math sy’n ofynnol, neu

    2. (b)

      os nad yw disgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd yn ofynnol yn rhinwedd yr adran honno, dystiolaeth arall,

    y gellir penderfynu ar ei sail bod gofyniad 1 a 2 wedi eu bodloni.

(2)

Caiff rheoliadau ddiwygio Atodlen 1.