RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG
PENNOD 2Y DRETH SYDD I’W CHODI AR WAREDIADAU TRETHADWY
Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi
14Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i warediad trethadwy deunydd a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig.
(2)
Mae swm y dreth sydd i’w godi ar y gwarediad i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd safonol.
(3)
Y gyfradd safonol yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (2) mewn rheoliadau.
(4)
Nid yw is-adran (2) yn gymwys i’r gwarediad os yw’r deunydd a waredir—
(a)
yn gyfan gwbl ar ffurf un neu ragor o ddeunyddiau cymwys (gweler adran 15), neu
(b)
yn gymysgedd cymwys o ddeunyddiau (gweler adran 16).
(5)
Yn lle hynny, mae swm y dreth sydd i’w godi ar warediad o’r disgrifiad hwnnw i’w gyfrifo drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd mewn tunelli â’r gyfradd is.
(6)
Y gyfradd is yw’r gyfradd y dunnell a ragnodir at ddibenion is-adran (5) mewn rheoliadau.
(7)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (3) neu (6) ragnodi cyfraddau gwahanol ar gyfer disgrifiadau gwahanol o ddeunydd.
(8)
Gweler adran 18 am ddarpariaeth ynghylch sut y mae pwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy i’w gyfrifo.