11Mynwentydd anifeiliaid anwesLL+C
(1)Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth—
(a)os yw’n warediad deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall, a
(b)os y’i gwneir ar safle tirlenwi awdurdodedig sy’n bodloni’r amod yn is-adran (2).
(2)Yr amod yw na wnaed unrhyw warediadau tirlenwi ar y safle yn ystod y cyfnod perthnasol, heblaw am warediadau deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall.
(3)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym, neu â’r diwrnod y daw’r safle yn safle tirlenwi awdurdodedig, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a
(b)sy’n dod i ben yn union cyn y gwarediad a grybwyllir yn is-adran (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 11 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3