RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 3GWAREDIADAU ESEMPT

11Mynwentydd anifeiliaid anwes

1

Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth—

a

os yw’n warediad deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall, a

b

os y’i gwneir ar safle tirlenwi awdurdodedig sy’n bodloni’r amod yn is-adran (2).

2

Yr amod yw na wnaed unrhyw warediadau tirlenwi ar y safle yn ystod y cyfnod perthnasol, heblaw am warediadau deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall.

3

Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod—

a

sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym, neu â’r diwrnod y daw’r safle yn safle tirlenwi awdurdodedig, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a

b

sy’n dod i ben yn union cyn y gwarediad a grybwyllir yn is-adran (1).