xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CY DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY

PENNOD 3LL+CGWAREDIADAU ESEMPT

10Gwarediadau lluosog deunydd ar yr un safleLL+C

Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth i’r graddau—

(a)y mae’n warediad deunydd sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn gwarediad trethadwy—

(i)a wnaed ar safle tirlenwi awdurdodedig, a

(ii)yr oedd treth i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, a

(b)y’i gwneir ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig â’r gwarediad trethadwy hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 10 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3