RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY
PENNOD 3GWAREDIADAU ESEMPT
10Gwarediadau lluosog deunydd ar yr un safle
Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth i’r graddau—
(a)
y mae’n warediad deunydd sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn gwarediad trethadwy—
(i)
a wnaed ar safle tirlenwi awdurdodedig, a
(ii)
yr oedd treth i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, a
(b)
y’i gwneir ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig â’r gwarediad trethadwy hwnnw.