ATODLEN 2YR HYN SYDD I’W GYNNWYS YN Y GOFRESTR
Gwybodaeth gyffredinol
1
Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)
enw’r person;
(b)
unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;
(c)
datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;
(d)
cyfeiriad busnes y person;
(e)
cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;
(f)
y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.
Aelodau cynrychiadol grwpiau corfforaethol: gwybodaeth ychwanegol am grŵp
2
Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—
(a)
datganiad o’r ffaith honno;
(b)
enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;
(c)
cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;
(d)
enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).
Partneriaethau a chyrff anghorfforedig: gwybodaeth ychwanegol am aelodau
3
Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.
Dehongli
4
At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.