ATODLEN 2YR HYN SYDD I’W GYNNWYS YN Y GOFRESTR

(a gyflwynir gan adran 34(3))

Gwybodaeth gyffredinol

1

Rhaid i gofnod person yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)

enw’r person;

(b)

unrhyw enw masnachu a ddefnyddir gan y person;

(c)

datganiad ynghylch pa un a yw’r person cofrestredig yn gorff corfforaethol, yn unigolyn, yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig;

(d)

cyfeiriad busnes y person;

(e)

cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae’r person yn weithredwr arno;

(f)

y rhif cofrestru a aseinir i’r person gan ACC.

Annotations:
Commencement Information

I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

Aelodau cynrychiadol grwpiau corfforaethol: gwybodaeth ychwanegol am grŵp

2

Os yw’r person cofrestredig yn aelod cynrychiadol grŵp o gyrff corfforaethol a ddynodir o dan adran 77, rhaid i gofnod y person yn y gofrestr gynnwys—

(a)

datganiad o’r ffaith honno;

(b)

enw a chyfeiriad busnes pob corff corfforaethol arall sy’n aelod o’r grŵp;

(c)

cyfeiriad neu ddisgrifiad o bob safle tirlenwi awdurdodedig y mae unrhyw aelod o’r grŵp yn weithredwr arno;

(d)

enw a chyfeiriad busnes unrhyw gorff corfforaethol neu unigolyn nad yw’n aelod o’r grŵp ond sy’n rheoli (naill ai’n unigol neu mewn partneriaeth) ei holl aelodau (gweler adran 78).

Annotations:
Commencement Information

I2Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

Partneriaethau a chyrff anghorfforedig: gwybodaeth ychwanegol am aelodau

3

Pan fo partneriaeth neu gorff anghorfforedig wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn enw’r bartneriaeth neu’r corff, rhaid i’r cofnod amdani neu amdano yn y gofrestr gynnwys enwau a chyfeiriadau pob un o’i aelodau.

Annotations:
Commencement Information

I3Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

Dehongli

4

At ddibenion yr Atodlen hon, cyfeiriad busnes corff corfforaethol, partneriaeth neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa.