ATODLEN 1DEUNYDD CYMWYS: DEUNYDDIAU PENODEDIG AC AMODAU
Cyffredinol
1
Mae’r Tabl yn nodi—
(a)
yn yr ail golofn, y deunyddiau sydd wedi eu pennu at ddibenion gofyniad 1 yn adran 15;
(b)
yn y drydedd golofn, yr amodau (os oes rhai) sy’n gymwys mewn perthynas â’r deunyddiau at ddibenion gofyniad 2 yn yr adran honno.
Grŵp | Deunyddiau | Amodau |
|---|---|---|
1 | Creigiau a phridd | Eu bod yn digwydd yn naturiol |
2 | Deunydd cerameg neu goncrit | |
3 | Mwynau | Eu bod wedi eu prosesu neu eu paratoi |
4 | Slag ffwrnais | |
5 | Lludw | |
6 | Cyfansoddion anorganig actifedd isel | |
7 | Calsiwm sylffad |
|
8 | Calsiwm hydrocsid a heli | Ei fod wedi ei waredu mewn ceudod heli |
Dehongli
2
Mae’r Tabl i’w ddehongli yn unol â’r paragraffau a ganlyn o’r Atodlen hon.
3
Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 1—
(a)
creigiau;
(b)
clai;
(c)
tywod;
(d)
grafel;
(e)
tywodfaen;
(f)
calchfaen;
(g)
malurion cerrig;
(h)
caolin;
(i)
cerrig adeiladu;
(j)
cerrig o ddymchwel adeiladau neu strwythurau;
(k)
llechi;
(l)
isbridd;
(m)
silt;
(n)
sorod.
4
Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 2—
(a)
gwydr, gan gynnwys enamel wedi ei ffritio;
(b)
cerameg, gan gynnwys brics, brics a morter, teils, nwyddau clai, crochenwaith, tseini a deunyddiau anhydrin;
(c)
concrit, gan gynnwys blociau concrit cyfnerthedig, brisblociau a blociau aercrit.
5
Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 2 yn cynnwys—
(a)
ffeibr gwydr na phlastig a gyfnerthwyd â gwydr;
(b)
golchion gweithfeydd concrit.
6
Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 3—
(a)
tywod mowldio, gan gynnwys tywod ffowndri defnyddiedig;
(b)
clai, gan gynnwys clai mowldio ac amsugnyddion clai (gan gynnwys pridd pannwr a bentonit);
(c)
amsugnyddion mwynol;
(d)
ffeibrau mwynol o waith dyn, gan gynnwys ffeibrau gwydr;
(e)
silica;
(f)
mica;
(g)
treulyddion mwynol.
7
Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 3 yn cynnwys—
(a)
tywod mowldio sy’n cynnwys glynwyr organig;
(b)
ffeibrau mwynol o wneuthuriad dyn a wnaed o—
(i)
plastig a gyfnerthwyd â gwydr, neu
(ii)
asbestos.
8
Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 4—
(a)
gwastraff a gweddillion gwydredig o brosesu mwynau yn thermol pan fo’r gwastraff neu’r gweddillion yn ymdoddedig ac yn anhydawdd;
(b)
slag o losgi gwastraff.
9
Yr unig ddeunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yw lludw sy’n codi a lludw gwaelod—
(a)
o hylosgi pren neu wastraff, neu
(b)
o hylosgi glo neu olosg petrolewm (gan gynnwys lludw sy’n codi a lludw gwaelod a gynhyrchir pan gaiff glo neu olosg petrolewm ei hylosgi gyda biomas).
10
Nid yw’r deunyddiau sydd yng Ngrŵp 5 yn cynnwys lludw sy’n codi—
(a)
o slwtsh carthion, neu
(b)
o losgyddion gwastraff trefol, gwastraff clinigol neu wastraff peryglus.
11
Y deunyddiau a ganlyn yn unig sydd yng Ngrŵp 6—
(a)
gwastraff adwaith seiliedig ar galsiwm, a’r gwastraff hwnnw’n deillio o gynhyrchu titaniwm deuocsid;
(b)
calsiwm carbonad;
(c)
magnesiwm carbonad;
(d)
magnesiwm ocsid;
(e)
magnesiwm hydrocsid;
(f)
haearn ocsid;
(g)
fferrig hydrocsid;
(h)
alwminiwm ocsid;
(i)
alwminiwm hydrocsid;
(j)
sirconiwm deuocsid.
12
Mae Grŵp 7 yn cynnwys calsiwm sylffad, gypswm a phlastrau sy’n seiliedig ar galsiwm sylffad ond nid yw’n cynnwys bwrdd plastr.
13
Yn nhrydedd golofn y Tabl, ystyr “gwastraff nad yw’n beryglus” yw gwastraff nad yw’n wastraff peryglus o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff dyddiedig 18 Tachwedd 2008.