xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL

PENNOD 7LL+CAMRYWIOL

Darpariaeth bellach mewn perthynas â’r drethLL+C

88Addasu contractauLL+C

(1)Pan fo—

(a)gwarediad trethadwy yn cael ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig,

(b)contract sy’n ymwneud â’r gwarediad trethadwy sy’n darparu i daliad gael ei wneud, ac

(c)ar ôl gwneud y contract, y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy yn newid o ganlyniad i ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth,

mae swm y taliad y darperir ar ei gyfer o dan y contract i’w addasu, oni bai bod y contract yn darparu fel arall, i adlewyrchu’r newid yn y dreth sydd i’w chodi ar y gwarediad trethadwy.

(2)At ddibenion yr adran hon, mae contract sy’n ymwneud â gwarediad trethadwy yn gontract sy’n darparu ar gyfer gwaredu’r deunydd sydd wedi ei gynnwys yn y gwarediad trethadwy, ac nid yw’n berthnasol pa un a yw’r contract hefyd yn darparu ar gyfer materion eraill ai peidio.

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at newid yn y dreth sydd i’w chodi yn gyfeiriad at—

(a)newid o fod dim treth i’w chodi i fod treth i’w chodi,

(b)newid o fod treth i’w chodi i fod dim treth i’w chodi, neu

(c)newid yn swm y dreth sydd i’w godi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 88 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

89Pŵer i osod atebolrwydd eilaidd ar reolwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedigLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i reolwr safle tirlenwi awdurdodedig, neu ran o safle o’r fath, dalu’r dreth sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy a wneir ar y safle neu’r rhan o dan sylw, ac mewn cysylltiad â hynny.

(2)Mewn perthynas â rheolwr safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath—

(a)mae’n berson, ac eithrio gweithredwr y safle, sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau deunyddiau y caniateir eu gwneud ledled y safle neu’r rhan o dan sylw, ond

(b)nid yw’n cynnwys person sy’n penderfynu, neu sydd â’r hawl i benderfynu, pa warediadau a wneir dim ond oherwydd bod y person yn gyflogai neu’n asiant i berson arall.

(3)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu os yw person yn dod, neu’n peidio â bod, yn rheolwr ar safle tirlenwi awdurdodedig neu ran o safle o’r fath;

(b)ynglŷn â’r amgylchiadau pan fo’n ofynnol i reolwr dalu treth;

(c)ar gyfer pennu swm y dreth y mae’n ofynnol i reolwr ei dalu;

(d)ynglŷn â’r berthynas rhwng gofyniad i reolwr dalu treth ac unrhyw rwymedigaeth ar weithredwr y safle tirlenwi awdurdodedig i dalu treth;

(e)ynglŷn â’r weithdrefn i’w gwneud yn ofynnol i reolwr dalu treth;

(f)ynglŷn â pha bryd y mae’n rhaid talu’r dreth;

(g)ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel;

(h)ar gyfer cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(i)ar gyfer adolygiadau ac apelau.

(4)Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 89 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4A. 89 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3

90Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016LL+C

Mae Atodlen 4 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i DCRhT.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6A. 90 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(x)

I7A. 90 mewn grym ar 1.4.2018 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2018/35, ergl. 3

91Arfer pwerau a dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf honLL+C

(1)Wrth arfer eu pwerau a’u dyletswyddau o dan y Ddeddf hon—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru;

(b)caiff Gweinidogion Cymru roi sylw i unrhyw faterion eraill sy’n briodol yn eu barn hwy.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i arfer pwerau a dyletswyddau o dan adran 92.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 91 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I9A. 91 mewn grym ar 18.10.2017 gan O.S. 2017/955, ergl. 2(h)

Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau TirlenwiLL+C

92Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau TirlenwiLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar y diwrnod y daw’r Ddeddf hon i rym yn llawn neu cyn hynny.

(2)Rhaid i’r Cynllun wneud darpariaeth ar gyfer rhoi grantiau gan Weinidogion Cymru i bersonau sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau y mae Gweinidogion Cymru o’r farn y byddant yn hyrwyddo neu’n gwella llesiant cymdeithasol neu amgylcheddol ardaloedd yng Nghymru a effeithir gan—

(a)gwneud gwarediadau tirlenwi, neu

(b)gweithgareddau sy’n baratoadol ar gyfer gwneud gwarediadau tirlenwi.

(3)Caiff y Cynllun ddarparu i’r grantiau—

(a)cael eu dyrannu drwy gyfeirio at feini prawf a bennir yn y Cynllun;

(b)bod yn ddarostyngedig i amodau a bennir yn y Cynllun neu gan Weinidogion Cymru.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)adolygu’r Cynllun—

(i)o leiaf unwaith yn ystod y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf, a

(ii)yn dilyn hynny, o leiaf unwaith yn ystod pob cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cwblheir yr adolygiad blaenorol, a

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy pan fyddant yn gwneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio neu ddirymu’r Cynllun ar ôl cynnal adolygiad; ond ni chaniateir dirymu’r Cynllun o fewn y cyfnod o 4 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y’i cyhoeddir gyntaf.

(6)Os caiff y Cynllun ei ddiwygio, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun diwygiedig.

(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod y Cynllun, ac unrhyw Gynllun diwygiedig, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I11A. 92 mewn grym ar 8.11.2017 gan O.S. 2017/955, ergl. 3(b)