xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CDARPARIAETH ATODOL

PENNOD 4LL+CCOSBAU O DAN Y DDEDDF HON

CyffredinolLL+C

70Talu cosbauLL+C

Rhaid talu cosb o dan y Bennod hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad am y gosb (ond gweler adran 182 o DCRhT (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I2A. 70 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(v)

71Gwahardd cosbi ddwywaithLL+C

Nid yw person yn agored i gosb o dan y Bennod hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I4A. 71 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(v)

72Atebolrwydd cynrychiolwyr personolLL+C

(1)Os yw person sy’n agored i gosb o dan y Bennod hon (“P”) wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar P ar gynrychiolwyr personol P.

(2)Mae cosb a asesir yn unol ag is-adran (1) i’w thalu o ystad P.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 72 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I6A. 72 mewn grym ar 25.1.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 2(v)

73Pŵer i wneud rheoliadau ynghylch cosbauLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch—

(a)symiau cosbau o dan y Bennod hon, a

(b)y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau o dan y Bennod hon.

(2)Caiff y rheoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)

I8A. 73 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3