(1)Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan adran 56 neu 57 yn agored i gosb nad yw’n fwy na £3,000.
(2)Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methiant i gadw cofnodion neu eu storio’n ddiogel os yw ACC wedi ei fodloni bod unrhyw ffeithiau y mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi, ac y byddai’r cofnodion wedi eu profi, yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I2A. 68 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3
(1)Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 68, rhaid i ACC—
(a)asesu’r gosb, a
(b)dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a asesir.
(2)Caniateir cyfuno asesiad o gosb o dan adran 68 gydag asesiad treth.
(3)Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 68 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf bod y person yn agored i’r gosb.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 97(2)
I4A. 69 mewn grym ar 1.4.2018 gan O.S. 2018/35, ergl. 3