RHAN 5DARPARIAETH ATODOL
PENNOD 4COSBAU O DAN Y DDEDDF HON
Cosbau sy’n ymwneud â chofrestru
I5I164Cosbau am gyflawni gweithrediadau trethadwy heb fod yn gofrestredig
1
Mae person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) (dyletswydd i fod yn gofrestredig) yn agored i gosb o £300.
2
Os yw person yn parhau i gyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, mae’r person yn agored i gosb bellach neu gosbau pellach nad ydynt yn fwy na £60 ar gyfer pob diwrnod y mae’r person yn parhau i wneud hynny.
3
Y cyfnod cosbi cychwynnol yw’r cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person am y gosb o dan is-adran (1).
4
Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod y mae penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—
a
adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
b
apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu ei thynnu’n ôl hyd yma.
I4I865Esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio
1
Os yw person sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy yn groes i adran 35(1) yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol am y toriad, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 64 mewn cysylltiad â’r toriad.
2
At ddibenion yr adran hon—
a
pan fo person yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod y person cyntaf wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r toriad;
b
pan fu gan berson esgus rhesymol am doriad ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os yw’r toriad yn cael ei unioni heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben.
I6I366Cosb am fethu â chydymffurfio â gofynion eraill sy’n ymwneud â chofrestru
1
Mae person yn agored i gosb nad yw’n fwy na £300 os yw’r person yn methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
a
adran 35(2) (cais cofrestru);
b
adran 36(1) i (4) (hysbysiad am newid neu anghywirdeb);
c
adran 37(1) neu (2) (cais i ganslo cofrestriad).
2
Ond nid yw person yn agored i gosb o dan yr adran hon mewn cysylltiad â methu â chyflwyno cais neu roi hysbysiad o fewn cyfnod cyfyngedig os yw’r person yn gwneud hynny o fewn cyfnod pellach a ganiateir gan ACC.
I2I767Asesu cosbau o dan adrannau 64 a 66
1
Pan ddaw person yn agored i gosb o dan adran 64 neu 66, rhaid i ACC—
a
asesu’r gosb, a
b
dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd.
2
Rhaid i asesiad o gosb o dan adran 64(1) neu 66 gael ei wneud o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n ddechrau â’r diwrnod y daeth ACC i gredu yn gyntaf fod y person yn agored i’r gosb.
3
Rhaid gwneud asesiad o gosb o dan adran 64(2) o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau a’r diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.