(1)Rhaid i berson sy’n dychwelyd ffurflen dreth dalu’r swm o dreth a nodir ar y ffurflen dreth fel y swm yr aseswyd ei fod i’w godi ar y person ar ddiwrnod ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny.
(2)Pan asesir bod swm o dreth i’w godi ar y person o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i’r ffurflen dreth o dan adran 41 o DCRhT (trethdalwr yn diwygio ffurflen dreth), rhaid i’r person dalu’r swm—
(a)os gwneir y diwygiad ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen dreth neu cyn hynny, ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, neu
(b)os gwneir y diwygiad ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, ar y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad i ACC am y diwygiad.
(3)Gweler y darpariaethau a ganlyn yn DCRhT am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o dreth mewn amgylchiadau eraill—
adran 42(4A) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir i ffurflen dreth gan ACC);
adran 45(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen dreth yn ystod ymholiad);
adran 50(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen dreth ar ôl cwblhau ymholiad);
adran 52(5) (swm sy’n daladwy yn unol â dyfarniad ACC);
adran 61(2) (swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC).
(1)Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy gadw cofnod (sef “crynodeb treth gwarediadau tirlenwi”) o—
(a)swm y dreth sydd i’w godi ar y person, a
(b)y dreth a dalwyd gan y person,
mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.
(2)Caiff ACC bennu—
(a)ar ba ffurf y mae’n rhaid cadw’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi, a
(b)yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ynddo.
(3)Mae’r crynodeb treth gwarediadau tirlenwi i’w drin at ddibenion DCRhT fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel o dan adran 38(1) o DCRhT at ddiben dangos bod y ffurflen dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dychwelyd mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yn gywir ac yn gyflawn.
(1)Mae adran 181B o DCRhT (ceisiadau i ohirio) (a fewnosodir gan baragraff 63 o Atodlen 23 i DTTT) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn is-adran (3)—
(a)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a), a
(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder “, ac
(c)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, y rhesymau pam y mae’r person sy’n gwneud y cais yn credu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person.”
(3)Yn is-adran (4)—
(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a
(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder “a
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu y byddai adennill y swm (a llog ar y swm hwnnw) yn achosi caledi ariannol i’r person,”.
(4)Yn is-adran (5)—
(a)daw’r geiriau o “yn credu” i “yn ormodol,” yn baragraff (a), a
(b)yn lle’r geiriau o “caiff ganiatáu” i’r diwedd rhodder “neu
(b)pan fo’r cais yn ymwneud â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, â rheswm i gredu mai dim ond mewn cysylltiad â rhan o’r swm (a llog ar y rhan honno) y byddai adennill yn achosi caledi ariannol i’r person,
caiff ACC ganiatáu’r cais mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r swm sy’n briodol yn ei farn.”
Yn adran 67 o DCRhT (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad), ar ôl is-adran (11) mewnosoder—
“(12)Achos 8 yw—
(a)pan wneir yr hawliad mewn cysylltiad â swm o dreth gwarediadau tirlenwi, a
(b)pan na fo swm o dreth gwarediadau tirlenwi y mae’n ofynnol i’r hawlydd ei dalu wedi ei dalu.”