RHAN 3GWAREDIADAU TRETHADWY A WNEIR AR SAFLEOEDD TIRLENWI AWDURDODEDIG

PENNOD 4CASGLU A RHEOLI’R DRETH

Cofrestru

I1I734Cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy

1

Rhaid i ACC gadw cofrestr o bersonau sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy.

2

Mae person yn cyflawni gweithrediadau trethadwy os yw’r person yn weithredwr safle tirlenwi awdurdodedig lle y gwneir gwarediadau trethadwy.

3

Rhaid i gofnod person ar y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2.

4

Caiff y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae ACC o’r farn ei bod yn briodol at ddibenion casglu a rheoli’r dreth.

5

Caiff ACC gyhoeddi gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr.

I235Dyletswydd i fod yn gofrestredig

1

Rhaid i berson sy’n cyflawni gweithrediadau trethadwy fod wedi ei gofrestru gydag ACC.

I62

Rhaid i berson sy’n bwriadu cyflawni gweithrediadau trethadwy ond nad yw wedi ei gofrestru—

a

gwneud cais ysgrifenedig i ACC i gael ei gofrestru, a

b

gwneud hynny o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r person yn dechrau cyflawni gweithrediadau trethadwy.

I63

Rhaid i ACC gofrestru’r person os yw wedi ei fodloni bod y cais—

a

yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan ACC i gofrestru’r person, a

b

ar y ffurf a bennir gan ACC (os o gwbl).

I64

Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person am ei benderfyniad ar y cais.

I65

Os yw ACC yn cofrestru’r person, rhaid i’r hysbysiad nodi cofnod y person yn y gofrestr.

I3I836Newidiadau a chywiro gwybodaeth

1

Rhaid i berson cofrestredig roi hysbysiad i ACC am unrhyw newid mewn amgylchiadau sy’n peri i gofnod y person yn y gofrestr fod yn anghywir.

2

Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid yn digwydd.

3

Rhaid i berson sydd wedi darparu gwybodaeth i ACC at ddiben sy’n ymwneud â chofrestru roi hysbysiad i ACC os yw’r person yn darganfod bod unrhyw ran o’r wybodaeth yn anghywir.

4

Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n ddechrau â’r diwrnod y mae’r person yn darganfod yr anghywirdeb.

5

Os yw ACC wedi ei fodloni bod gwybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr yn anghywir, caiff gywiro’r gofrestr (pa un a yw’r person cofrestredig y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef wedi rhoi hysbysiad i ACC am yr anghywirdeb ai peidio).

6

Os yw ACC yn cywiro cofnod person yn y gofrestr, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i’r person yn nodi’r cofnod fel y’i cywirwyd.

I437Canslo cofrestriad

1

Rhaid i berson cofrestredig sy’n peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy wneud cais ysgrifenedig i ACC i ganslo cofrestriad y person hwnnw.

2

Rhaid gwneud y cais cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy.

3

Caiff ACC ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni bod y person wedi peidio â chyflawni gweithrediadau trethadwy (pa un a yw’r person wedi gwneud cais i ganslo’r cofrestriad ai peidio).

4

Ond ni chaiff ACC ganslo cofrestriad y person oni bai ei fod wedi ei fodloni bod yr holl dreth y mae’n ofynnol i’r person ei thalu wedi ei thalu.

I95

Caiff ACC hefyd ganslo cofrestriad person os yw wedi ei fodloni nad yw’r person wedi cyflawni gweithrediadau trethadwy ac nad yw’n bwriadu gwneud hynny.

I96

Os yw ACC yn canslo cofrestriad person, rhaid iddo ddyroddi hysbysiad am y canslo i’r person.

I5I1038Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â chofrestru

Yn adran 172 o DCRhT (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (h) (a fewnosodir gan adran 24 o’r Ddeddf hon) mewnosoder—

i

penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person at ddibenion treth gwarediadau tirlenwi;