Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

PENNOD 3GWAREDIADAU ESEMPT

9Esemptiadau: cyffredinol

(1)Mae’r Bennod hon yn darparu esemptiad rhag treth ar gyfer gwarediadau deunydd penodol a fyddai fel arall i’w trin fel gwarediadau trethadwy.

(2)Nid yw gwarediad deunydd sy’n esempt rhag treth yn warediad trethadwy.

(3)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriadau at warediad deunydd yn cynnwys cyflawni gweithgarwch safle tirlenwi penodedig mewn perthynas â deunydd.

10Gwarediadau lluosog deunydd ar yr un safle

Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth i’r graddau—

(a)y mae’n warediad deunydd sydd eisoes wedi ei gynnwys mewn gwarediad trethadwy—

(i)a wnaed ar safle tirlenwi awdurdodedig, a

(ii)yr oedd treth i’w chodi mewn cysylltiad ag ef, a

(b)y’i gwneir ar yr un safle tirlenwi awdurdodedig â’r gwarediad trethadwy hwnnw.

11Mynwentydd anifeiliaid anwes

(1)Mae gwarediad deunydd yn esempt rhag treth—

(a)os yw’n warediad deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall, a

(b)os y’i gwneir ar safle tirlenwi awdurdodedig sy’n bodloni’r amod yn is-adran (2).

(2)Yr amod yw na wnaed unrhyw warediadau tirlenwi ar y safle yn ystod y cyfnod perthnasol, heblaw am warediadau deunydd sy’n weddillion anifeiliaid anwes meirw (ac unrhyw gynhwysydd neu ddeunydd y cynhwysir y gweddillion ynddo), a dim arall.

(3)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod—

(a)sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r adran hon i rym, neu â’r diwrnod y daw’r safle yn safle tirlenwi awdurdodedig, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a

(b)sy’n dod i ben yn union cyn y gwarediad a grybwyllir yn is-adran (1).

12Pŵer i addasu esemptiadau

(1)Caiff rheoliadau—

(a)creu esemptiad ychwanegol rhag treth,

(b)addasu esemptiad presennol, neu

(c)dileu esemptiad.

(2)Caiff y rheoliadau ddarparu i esemptiad fod yn gymwys yn ddarostyngedig i amodau (er enghraifft, amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu cyn y gwneir gwarediad).

(3)Caiff y rheoliadau ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r dreth.