RHAN 2Y DRETH A GWAREDIADAU TRETHADWY
PENNOD 1TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI
I2I12Y dreth
1
Mae treth, o’r enw treth gwarediadau tirlenwi, i’w chodi ar warediadau trethadwy yn unol â’r Ddeddf hon.
2
Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth.
3
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at dreth (neu at y dreth) yn gyfeiriadau at dreth gwarediadau tirlenwi.