Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017

Pennod 2 – Y Dreth sydd i’w Chodi ar Warediadau Trethadwy
Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi
Adran 14 – Cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar warediad trethadwy

31.Mae’r adran hon yn nodi’r dull o gyfrifo swm y dreth sydd i’w godi ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig. Mae’n darparu y bydd cyfradd safonol o TGT a chyfradd is o TGT, a fydd yn gymwys i ddeunydd cymwys (fel y’i diffinnir yn adran 15) a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau (fel y’u diffinnir yn adran 16); ac y bydd cyfraddau’r dreth yn cael eu rhagnodi mewn rheoliadau.

32.Cyfrifoldeb gweithredwr y safle tirlenwi yw sicrhau y caiff y gyfradd dreth gywir ei chodi ac y telir y swm cywir o dreth i ACC ar gyfer pob gwarediad ar ei safle.

Deunyddiau cymwys a chymysgeddau cymwys o ddeunyddiau
Adran 15 – Deunydd cymwys

33.Mae’r adran hon yn nodi o dan ba amgylchiadau y bydd deunydd yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth is. Yn gyntaf, mae angen i’r deunydd fod wedi ei restru yn y Tabl yn Atodlen 1. Yn ail, bydd angen bodloni pob amod cymwys (os oes rhai) a nodir yn y Tabl yn Atodlen 1. Yn drydydd, rhaid i weithredwyr safle tirlenwi gadw disgrifiad ysgrifenedig o’r deunydd, y cyfeirir ato’n aml fel nodyn trosglwyddo gwastraff, os yw dogfen o’r fath yn ofynnol gan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 neu, os nad yw’n ofynnol, dystiolaeth arall sy’n dangos bod y deunydd mewn gwirionedd yn ddeunydd cymwys. Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio Atodlen 1.

Adran 16 – Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau

34.Mae’r adran hon yn nodi’r profion y mae’n rhaid i gymysgedd o ddeunyddiau eu bodloni er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y gyfradd TGT is. Mae gofynion 1-6 yn gymwys i bob cymysgedd cymwys ac mae gofyniad 7 yn darparu ar gyfer y posibilrwydd y bydd gofynion ychwanegol i’w bodloni pan fo’r cymysgedd yn cynnwys gronynnau mân.

35.Dylid nodi bod gofyniad 1 yn darparu bod rhaid i’r llwyth fod ar ffurf un deunydd cymwys neu ragor a swm bychan yn unig o ddeunydd anghymwys sy’n atodol i’r deunydd cymwys. Mae is-adran (2) yn nodi materion y mae’n rhaid eu hystyried wrth benderfynu a yw swm o ddeunydd anghymwys yn swm bychan, ac a yw’n atodol i’r deunyddiau cymwys ai peidio.

36.Mae gofyniad 3 yn nodi na ddylai’r deunydd anghymwys fod wedi ei gymysgu’n fwriadol â’r deunyddiau cymwys at ddibenion gwaredu na materion sy’n ymwneud â pharatoi i waredu: er enghraifft, ar gyfer eu cludo. Bydd y prawf hwn yn gwahaniaethu, er enghraifft, rhwng achos pan fo darnau o ddeunydd anghymwys ynghlwm wrth ddeunydd cymwys am nad oedd yn bosibl eu tynnu oddi yno’n llwyr, ac achos pan fo deunydd anghymwys wedi ei ychwanegu at y llwyth, ar wahân ac yn fwriadol. Ni fyddai’r achos olaf yn bodloni gofyniad 3.

37.Mae gofyniad 4 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi mewn rheoliadau unrhyw ddeunyddiau na chaniateir eu cynnwys mewn cymysgedd cymwys o ddeunyddiau. Pe bai’r fath reoliadau yn cael eu gwneud, byddai’r gyfradd dreth safonol (fel y’i diffinnir yn adran 14) yn gymwys i unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau sy’n cynnwys deunydd rhagnodedig, ni waeth pa un a oedd swm y deunydd rhagnodedig yn fychan ac yn atodol ai peidio.

38.Mae gofyniad 6 yn nodi na chaniateir i unrhyw drefniadau (mae hyn yn cynnwys unrhyw gamau neu weithrediadau) gael eu gwneud mewn cysylltiad â’r cymysgedd y mae osgoi atebolrwydd i’r dreth yn brif ddiben iddynt, neu’n un o’u prif ddibenion. Er enghraifft, gallai trefniadau o’r fath gynnwys paratoi cymysgedd mewn ffordd sy’n galluogi i’w gyfansoddiad gael ei guddio. Gall hyn gynnwys gwasgu neu guddio’n fwriadol ddeunydd cyfradd safonol o fewn llwyth o ddeunydd cymwys er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y bydd yn ymddangos bod mwy na swm bychan ac atodol o ddeunydd o’r fath yn bresennol yn y llwyth.

Adran 17 – Cymysgedd cymwys o ddeunyddiau: gronynnau mân

39.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad â gronynnau mân (fel y’u diffinnir yn adran 17(6)). Caiff y rheoliadau ragnodi gofynion y mae’n rhaid eu bodloni (yn ogystal â’r gofynion hynny a nodir ar gyfer cymysgeddau cymwys yn adran 16) er mwyn i gymysgedd o ronynnau mân fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd is. Mae adran 17(2) yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysol o’r materion y caiff y rheoliadau hynny eu cwmpasu, ac mae’n cynnwys y posibilrwydd y gellir ei gwneud yn ofynnol i brawf ar gymysgedd o ronynnau mân arwain at ganlyniad rhagnodedig os cynhelir prawf rhagnodedig arnynt (17(2)(e)). Os gosodir y fath ofyniad o dan adran 17(2)(e), mae adran 17(3) yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysol o’r darpariaethau cysylltiedig y gellir eu gwneud, megis gofyniad bod gweithredwr safle tirlenwi yn cynnal y prawf rhagnodedig ar gymysgedd rhagnodedig o ronynnau mân ar adeg ragnodedig. Effaith adran 17(5) yw y caniateir nodi gofynion mewn perthynas â chymysgedd o ronynnau mân, ac eithrio’r gofynion hynny sy’n ymwneud â phwerau neu ddyletswyddau ACC, mewn hysbysiad ACC, ar yr amod bod y rheoliadau yn caniatáu hynny.

Pwysau trethadwy deunydd
Adrannau 18 i 20 – Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd; cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan y gweithredwr; a phennu pwysau deunydd gan y gweithredwr

40.Codir TGT ar warediad trethadwy drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd â’r gyfradd dreth berthnasol, fel a nodir yn adran 14. Mae’n bwysig, felly, cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd sy’n cael ei waredu yn fanwl gywir.

41.Mae adran 18 yn darparu bod rhaid i bwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy (a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig) gael ei gyfrifo gan weithredwr y safle tirlenwi, ac y caiff ACC ei gyfrifo os yw’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny. Mae’r adran hon hefyd yn pennu’r pwysau trethadwy sy’n gymwys at ddibenion adran 14(2) a (5) o’r Ddeddf.

42.Mae adran 19 yn nodi sut y mae’n rhaid i weithredwr safle tirlenwi gyfrifo pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy. Rhaid i weithredwr y safle tirlenwi bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli yn unol ag adran 20. Pan fo gan weithredwr safle tirlenwi gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt mewn perthynas â dŵr sy’n bresennol mewn deunydd, caiff gweithredwr y safle tirlenwi gymhwyso’r disgownt (neu ddisgownt is) i’r pwysau a bennwyd, yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).

43.Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy drwy ddefnyddio pont bwyso. At y diben hwn, rhaid i weithredwr safle tirlenwi sicrhau bod y deunydd yn cael ei bwyso ar bont bwyso cyn i’r gwarediad gael ei wneud, a sicrhau hefyd fod y bont bwyso yn bodloni’r gofynion a nodir mewn deddfwriaethau pwysau a mesurau perthnasol.

44.Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau lle nad yw’n bosibl i weithredwr safle tirlenwi ddefnyddio pont bwyso. Er enghraifft, mae’n bosibl nad oes pont bwyso ar safle tirlenwi, neu fod pont bwyso wedi torri. Felly, mae adran 20(3) yn gwneud darpariaeth i weithredwr safle tirlenwi wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau deunydd mewn gwarediad trethadwy. Er enghraifft, gallai dull arall gynnwys cyfrifo yn seiliedig ar uchafswm pwysau a ganiateir ar gyfer cynhwysydd.

45.Mae adran 20 hefyd yn gwneud darpariaeth i ACC bennu’r modd y bydd cais am ddull arall yn cael ei wneud a’r wybodaeth y mae’n rhaid iddo ei chynnwys. Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch pwerau ACC mewn perthynas â chymeradwyo dull arall. Er enghraifft, caiff ACC gymeradwyo mewn perthynas â phob gwarediad trethadwy neu mewn perthynas â gwarediadau trethadwy o ddisgrifiadau penodol. Caiff ACC gymeradwyo naill ai’n ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau. Yn ogystal â hyn, caiff ACC amrywio neu ddirymu cytundeb. Gall hyn ddigwydd os yw ACC yn ystyried nad yw’r dull arall yn dangos y pwysau’n fanwl gywir neu nad yw’n cael ei dilyn yn llwyr a bod risg i’r refeniw dreth.

46.Mae cosb am fethu â phennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20. Nodir y gosb hon yn adran 61 o’r Ddeddf.

Adran 21 – Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunydd

47.Mae adran 21(1) a (2) yn darparu y caiff gweithredwr safle tirlenwi wneud cais ysgrifenedig i ACC am gymeradwyaeth i roi disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd. Mae adran 21(4) yn nodi’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i ACC gymeradwyo disgownt dŵr.

48.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch pwerau ACC mewn perthynas â chymeradwyo rhoi disgownt dŵr. Er enghraifft, gall cymeradwyaeth fod yn ddarostyngedig i amodau neu gellir ei rhoi am gyfnod penodol.

49.Mae’r darpariaethau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi gadw cofnod disgownt dŵr ar gyfer pob gwarediad trethadwy pan roddir disgownt. Mae’r cofnod i’w drin fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel yn unol ag adran 38 o DCRhT, sy’n nodi’r cyfnod perthnasol ar gyfer cadw cofnodion.

50.Mae cosb am gymhwyso disgownt dŵr yn anghywir. Nodir y gosb hon yn adran 62 o’r Ddeddf.

Adrannau 22 a 23 – Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC gan gynnwys mewn achosion o beidio â chydymffurfio

51.Mae adran 22 yn nodi sut y bydd ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd pan fo’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.

52.Mae adran 23 yn darparu, mewn achosion o beidio â chydymffurfio fel y nodir yn yr adran hon, y caiff ACC anwybyddu’r disgownt dŵr wrth gyfrifo pwysau trethadwy deunydd, neu leihau’r disgownt hwnnw.

Adran 24 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd

53.Mae adran 24 yn diwygio adran 172 o DCRhT er mwyn i’r gweithdrefnau adolygu ac apelio yn Rhan 8 o’r Ddeddf honno fod yn gymwys i benderfyniadau o dan adran 20 o’r Ddeddf hon.

Adran 25 - Pŵer i addasu darpariaeth sy’n ymwneud a phwysau trethadwy deunydd

54.Mae adran 25 yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu at unrhyw ddarpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd (gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â disgownt dŵr), diddymu’r darpariaethau hynny neu eu diwygio fel arall.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources