Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 3 – Gwarediadau Trethadwy a Wneir ar Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig

Pennod 2 – Y Dreth sydd i’w Chodi ar Warediadau Trethadwy
Pwysau trethadwy deunydd
Adrannau 18 i 20 – Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd; cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan y gweithredwr; a phennu pwysau deunydd gan y gweithredwr

40.Codir TGT ar warediad trethadwy drwy luosi pwysau trethadwy’r deunydd â’r gyfradd dreth berthnasol, fel a nodir yn adran 14. Mae’n bwysig, felly, cyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd sy’n cael ei waredu yn fanwl gywir.

41.Mae adran 18 yn darparu bod rhaid i bwysau trethadwy’r deunydd mewn gwarediad trethadwy (a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig) gael ei gyfrifo gan weithredwr y safle tirlenwi, ac y caiff ACC ei gyfrifo os yw’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny. Mae’r adran hon hefyd yn pennu’r pwysau trethadwy sy’n gymwys at ddibenion adran 14(2) a (5) o’r Ddeddf.

42.Mae adran 19 yn nodi sut y mae’n rhaid i weithredwr safle tirlenwi gyfrifo pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad trethadwy. Rhaid i weithredwr y safle tirlenwi bennu pwysau’r deunydd mewn tunelli yn unol ag adran 20. Pan fo gan weithredwr safle tirlenwi gymeradwyaeth i gymhwyso disgownt mewn perthynas â dŵr sy’n bresennol mewn deunydd, caiff gweithredwr y safle tirlenwi gymhwyso’r disgownt (neu ddisgownt is) i’r pwysau a bennwyd, yn ddarostyngedig i amodau’r gymeradwyaeth (os oes rhai).

43.Mae adran 20 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy drwy ddefnyddio pont bwyso. At y diben hwn, rhaid i weithredwr safle tirlenwi sicrhau bod y deunydd yn cael ei bwyso ar bont bwyso cyn i’r gwarediad gael ei wneud, a sicrhau hefyd fod y bont bwyso yn bodloni’r gofynion a nodir mewn deddfwriaethau pwysau a mesurau perthnasol.

44.Fodd bynnag, gall fod amgylchiadau lle nad yw’n bosibl i weithredwr safle tirlenwi ddefnyddio pont bwyso. Er enghraifft, mae’n bosibl nad oes pont bwyso ar safle tirlenwi, neu fod pont bwyso wedi torri. Felly, mae adran 20(3) yn gwneud darpariaeth i weithredwr safle tirlenwi wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau deunydd mewn gwarediad trethadwy. Er enghraifft, gallai dull arall gynnwys cyfrifo yn seiliedig ar uchafswm pwysau a ganiateir ar gyfer cynhwysydd.

45.Mae adran 20 hefyd yn gwneud darpariaeth i ACC bennu’r modd y bydd cais am ddull arall yn cael ei wneud a’r wybodaeth y mae’n rhaid iddo ei chynnwys. Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch pwerau ACC mewn perthynas â chymeradwyo dull arall. Er enghraifft, caiff ACC gymeradwyo mewn perthynas â phob gwarediad trethadwy neu mewn perthynas â gwarediadau trethadwy o ddisgrifiadau penodol. Caiff ACC gymeradwyo naill ai’n ddiamod neu’n ddarostyngedig i amodau. Yn ogystal â hyn, caiff ACC amrywio neu ddirymu cytundeb. Gall hyn ddigwydd os yw ACC yn ystyried nad yw’r dull arall yn dangos y pwysau’n fanwl gywir neu nad yw’n cael ei dilyn yn llwyr a bod risg i’r refeniw dreth.

46.Mae cosb am fethu â phennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy yn unol ag adran 20. Nodir y gosb hon yn adran 61 o’r Ddeddf.

Adran 21 – Disgownt mewn cysylltiad â dŵr mewn deunydd

47.Mae adran 21(1) a (2) yn darparu y caiff gweithredwr safle tirlenwi wneud cais ysgrifenedig i ACC am gymeradwyaeth i roi disgownt mewn cysylltiad â dŵr sydd mewn deunydd wrth gyfrifo pwysau trethadwy’r deunydd. Mae adran 21(4) yn nodi’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i ACC gymeradwyo disgownt dŵr.

48.Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch pwerau ACC mewn perthynas â chymeradwyo rhoi disgownt dŵr. Er enghraifft, gall cymeradwyaeth fod yn ddarostyngedig i amodau neu gellir ei rhoi am gyfnod penodol.

49.Mae’r darpariaethau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle tirlenwi gadw cofnod disgownt dŵr ar gyfer pob gwarediad trethadwy pan roddir disgownt. Mae’r cofnod i’w drin fel cofnod y mae’n ofynnol ei gadw a’i storio’n ddiogel yn unol ag adran 38 o DCRhT, sy’n nodi’r cyfnod perthnasol ar gyfer cadw cofnodion.

50.Mae cosb am gymhwyso disgownt dŵr yn anghywir. Nodir y gosb hon yn adran 62 o’r Ddeddf.

Adrannau 22 a 23 – Cyfrifo pwysau trethadwy deunydd gan ACC gan gynnwys mewn achosion o beidio â chydymffurfio

51.Mae adran 22 yn nodi sut y bydd ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy deunydd pan fo’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.

52.Mae adran 23 yn darparu, mewn achosion o beidio â chydymffurfio fel y nodir yn yr adran hon, y caiff ACC anwybyddu’r disgownt dŵr wrth gyfrifo pwysau trethadwy deunydd, neu leihau’r disgownt hwnnw.

Adran 24 – Adolygiadau ac apelau sy’n ymwneud â’r dull o bennu pwysau deunydd

53.Mae adran 24 yn diwygio adran 172 o DCRhT er mwyn i’r gweithdrefnau adolygu ac apelio yn Rhan 8 o’r Ddeddf honno fod yn gymwys i benderfyniadau o dan adran 20 o’r Ddeddf hon.

Adran 25 - Pŵer i addasu darpariaeth sy’n ymwneud a phwysau trethadwy deunydd

54.Mae adran 25 yn caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau, ychwanegu at unrhyw ddarpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud â phwysau trethadwy deunydd (gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â disgownt dŵr), diddymu’r darpariaethau hynny neu eu diwygio fel arall.