Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 3 – Gwarediadau Trethadwy a Wneir ar Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig

Pennod 1 – Personau y mae’r Dreth i’w Chodi Arnynt

29.Mae adran 13 yn egluro mai’r person sy’n agored i dalu’r dreth, yn achos gwarediadau a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig, yw gweithredwr y safle tirlenwi ar yr adeg y gwneir y gwarediad perthnasol.

30.Os oes dau neu ragor o bersonau yn agored i dalu’r dreth, bydd ACC yn gallu cymryd camau i adennill unrhyw TGT sy’n ddyledus gan bob un ohonynt, neu gan unrhyw un neu ragor ohonynt. Er enghraifft, os yw safle tirlenwi yn cael ei weithredu gan bersonau sy’n rhedeg busnes fel partneriaeth, mae pob partner ar adeg y gwarediad perthnasol yn agored ar y cyd ac yn unigol i dalu TGT (hynny yw, os nad oes gan unrhyw un neu ragor o’r partneriaid ddigon o arian neu asedau i dalu cyfran gyfartal, rhaid i’r partneriaid eraill dalu’r gweddill) (gweler adran 83).