Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2 – Y Dreth a Gwarediadau Trethadwy

Pennod 2 – Gwarediadau Trethadwy
Adran 7 – Gwaredu deunydd fel gwastraff: person sy’n gyfrifol am warediad

18.Mae’r adran hon yn nodi’r person sy’n gyfrifol am warediad at ddibenion adran 6. Bwriad y person hwn sy’n berthnasol wrth benderfynu a yw gwarediad yn warediad deunydd fel gwastraff.

19.Mae’r adran hon yn darparu mai gweithredwr y safle tirlenwi yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad, fel arfer, os caiff ei wneud ar safle tirlenwi awdurdodedig. Os yw’r gweithredwr yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu, ac y gwneir y gwarediad gyda chaniatâd y gweithredwr, bydd y gwarediad yn warediad deunydd fel gwastraff. Fodd bynnag, os caiff gwarediad ei wneud ar y safle heb ganiatâd gweithredwr y safle tirlenwi, y person sy’n gwaredu’r deunydd yw’r person sy’n gyfrifol am y gwarediad. Os yw’r person hwnnw’n bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu, bydd y gwarediad yn warediad deunydd fel gwastraff, ni waeth beth yw bwriad y gweithredwr. Mae adran 13 (personau y mae’r dreth i’w chodi arnynt) yn ei gwneud yn glir y bydd gweithredwr safle tirlenwi yn agored i dalu treth ar warediad a wneir ar y safle, hyd yn oed os person arall a wnaeth y gwarediad. Felly, os gwneir gwarediad y tu allan i oriau arferol, heb ganiatâd gweithredwr y safle tirlenwi, gan berson a oedd yn bwriadu bwrw’r deunydd o’r neilltu, gweithredwr y safle tirlenwi fydd yn agored i dalu’r dreth ar y gwarediad.

20.Os gwneir gwarediad heb ei awdurdodi (hynny yw, gwarediad trethadwy a wneir yn rhywle heblaw safle tirlenwi awdurdodedig – gweler adran 3) y person sy’n gyfrifol am y gwarediad yw’r person sy’n gwaredu’r deunydd. Mae Rhan 4 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer codi treth mewn perthynas â gwarediadau heb eu hawdurdodi.