RHAN 5RHOI TWLL MEWN RHAN BERSONOL O’R CORFF
Troseddau sy’n gysylltiedig â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff
95Y drosedd o roi neu wneud trefniadau i roi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn
(1)
Mae’n drosedd i berson yng Nghymru—
(a)
rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff person sydd o dan 18 oed, neu
(b)
gwneud trefniadau i roi, yng Nghymru, dwll mewn rhan bersonol o gorff person penodol sydd o dan 18 oed.
(2)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(3)
Pan fo person (“y cyhuddedig”) wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd ymddygiad y cyhuddedig ei hun (ac eithrio yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr)) mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig ddangos—
(a)
bod y cyhuddedig yn credu bod y person y rhoddwyd y twll y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) iddo, neu y gwnaed y trefniadau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b) mewn cysylltiad ag ef, yn 18 oed neu’n hŷn, a
(b)
naill ai—
(i)
bod y cyhuddedig wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran y person hwnnw, neu
(ii)
na allai neb fod wedi amau’n rhesymol o olwg y person hwnnw fod y person o dan 18 oed.
(4)
At ddibenion is-adran (3)(b)(i), mae’r cyhuddedig (yn achos trosedd o dan is-adran (1)(a)) i gael ei drin fel pe bai wedi cymryd camau rhesymol i gadarnhau oedran person arall—
(a)
os gofynnodd y cyhuddedig i’r person hwnnw am dystiolaeth o oedran y person hwnnw, a
(b)
pe bai’r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.
(5)
Pan fo person wedi ei gyhuddo o drosedd o dan yr adran hon oherwydd gweithred neu ddiffyg person arall, neu yn rhinwedd cymhwyso adran 44 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) (helpwyr ac anogwyr), mae’n amddiffyniad dangos i’r person gymryd rhagofalon rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.