RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG
Gorfodi
86Gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill
(1)
Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a)
ei bod, at ddiben arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, yn angenrheidiol mynd i mewn i fangre nas defnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, a
(b)
bod gofyniad a nodir yn un neu ragor o is-adrannau (3) i (6) wedi ei fodloni.
(2)
Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.
(3)
Y gofyniad yw—
(a)
bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a
(b)
bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd neu berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod lleol ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.
(4)
Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(5)
Y gofyniad yw nad yw’r fangre wedi ei meddiannu.
(6)
Y gofyniad yw—
(a)
bod meddiannydd y fangre yn absennol dros dro, a
(b)
bod aros i’r meddiannydd ddychwelyd yn debygol o danseilio diben y mynediad.
(7)
Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.
(8)
Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.