RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG

Gorfodi

85Gwarant i fynd i mewn i annedd

(1)

Caiff ynad heddwch arfer y pŵer yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, at ddiben arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan y Rhan hon neu yn rhinwedd y Rhan hon, ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn i fangre⁠—

(a)

a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd, ond

(b)

sydd o fewn is-adran (2).

(2)

Mae mangre o fewn yr is-adran hon os oes rheswm dros gredu—

(a)

bod triniaeth arbennig wedi ei rhoi, yn cael ei rhoi neu’n debygol o gael ei rhoi yn y fangre, neu

(b)

bod deunydd neu gyfarpar y bwriedir ei ddefnyddio wrth roi triniaeth arbennig, neu mewn cysylltiad â rhoi triniaeth arbennig, yn cael ei gadw neu ei baratoi yn y fangre.

(3)

Caiff yr ynad ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig i’r awdurdod i fynd i mewn i’r fangre, drwy rym os oes angen.

(4)

Mae’r warant yn parhau mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

(5)

Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.