RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG

Troseddau sy’n ymwneud â’r system trwyddedu a chymeradwyo

82Troseddau

(1)

Mae person sy’n torri adran 58 (gofyniad i gael trwydded) yn cyflawni trosedd.

(2)

Mae person sy’n torri gwaharddiad a bennir, o dan adran 61(3)(c), mewn hysbysiad a roddir o dan adran 61(1) (dynodi person at ddibenion adran 58(3)) yn cyflawni trosedd.

(3)

Mae person sydd, heb achos rhesymol, yn torri’r gofyniad yn adran 69(2) (gofyniad i gael cymeradwyaeth) yn cyflawni trosedd.

(4)

Mae person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 77 (hysbysiadau stop) yn cyflawni trosedd.

(5)

Mae person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 78 (hysbysiadau camau adfer i ddeiliad trwydded) yn cyflawni trosedd.

(6)

Mae person sydd, heb achos rhesymol, yn torri hysbysiad o dan adran 79 (hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre) yn cyflawni trosedd.

(7)

Mae person sydd, mewn cais i ddyroddi, amrywio neu adnewyddu trwydded triniaeth arbennig neu gais am gymeradwyaeth i fangre neu gerbyd o dan adran 70—

(a)

yn gwneud datganiad sy’n anwir neu’n gamarweiniol, a

(b)

naill ai’n gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol neu’n ddi-hid o ran a yw’n anwir neu’n gamarweiniol,

yn cyflawni trosedd.

(8)

Yn is-adran (7), ystyr “yn anwir neu’n gamarweiniol” yw anwir neu gamarweiniol mewn manylyn perthnasol.

(9)

Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.