RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG
Apelau yn erbyn hysbysiadau stop a hysbysiadau camau adfer
81Apelau
(1)
Caiff person (“P”) apelio i lys ynadon—
(a)
yn erbyn hysbysiad a roddir i P o dan adran 77;
(b)
yn erbyn hysbysiad a roddir i P o dan adran 78 neu 79;
(c)
os rhoddir hysbysiad i P o dan adran 80(5), yn erbyn gwrthod cais P am dystysgrif gwblhau.
(2)
Mae apêl i gael ei gwneud o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad o dan sylw.
(3)
Mae apêl i fod ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43).
(4)
At ddibenion y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, mae gwneud y gŵyn i gael ei drin fel gwneud yr apêl.
(5)
Ar apêl, caiff y llys ynadon—
(a)
cadarnhau’r hysbysiad neu’r gwrthodiad;
(b)
yn achos apêl yn erbyn hysbysiad a roddir i P o dan adran 77, 78 neu 79, ddiddymu neu amrywio’r hysbysiad;
(c)
yn achos apêl yn erbyn gwrthod cais am dystysgrif gwblhau, ddiddymu’r gwrthodiad;
(d)
mewn unrhyw achos, anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan y llys;
a chaiff wneud unrhyw orchymyn o ran costau y mae’n meddwl ei fod yn addas.
(6)
Pan fo llys ynadon, ar apêl o dan yr adran hon, yn diddymu neu’n amrywio hysbysiad a roddwyd i P gan awdurdod lleol, neu’n diddymu’r gwrthodiad i gais am dystysgrif gwblhau, caiff orchymyn i’r awdurdod lleol ddigolledu P am golled a ddioddefwyd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad neu (yn ôl y digwydd) y gwrthodiad.
(7)
Caniateir i apêl gan y naill barti neu’r llall yn erbyn penderfyniad llys ynadon ar apêl o dan yr adran hon gael ei dwyn gerbron Llys y Goron.
(8)
Ar apêl i Lys y Goron, caiff Llys y Goron—
(a)
cadarnhau, amrywio neu wrth-droi penderfyniad y llys ynadon;
(b)
anfon yr achos yn ôl i’r llys ynadon neu’r awdurdod lleol i ymdrin ag ef yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Lys y Goron.
(9)
Nid yw dwyn apêl o dan yr adran hon yn erbyn hysbysiad a roddir gan awdurdod lleol yn atal dros dro effaith yr hysbysiad.