RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG

Hysbysiadau camau adfer

79Mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd: hysbysiadau camau adfer ar gyfer mangre

(1)

Os yw awdurdod lleol sydd wedi cymeradwyo mangre neu gerbyd o dan adran 70 wedi ei fodloni bod person yn torri’r gofyniad yn adran 69(3) (cydymffurfedd â’r amodau cymeradwyo mandadol cymwys) mewn cysylltiad â’r fangre neu’r cerbyd, caiff roi hysbysiad o dan yr adran hon i’r person.

(2)

Yn y Rhan hon cyfeirir at hysbysiad a roddir i berson (“P”) o dan yr adran hon fel hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre.

(3)

Rhaid i hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre—

(a)

datgan bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni bod P yn torri’r gofyniad yn adran 69(3);

(b)

pennu’r materion a arweiniodd at y toriad;

(c)

pennu’r camau sydd i gael eu cymryd gan P er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad;

(d)

pennu cyfnod (y “cyfnod cydymffurfio”) ar gyfer cymryd y camau hynny nad yw’n llai na 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad.

(4)

Rhaid i hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre hefyd ddatgan—

(a)

y caiff P apelio o dan adran 81 yn erbyn yr hysbysiad, a

(b)

y cyfnod y caniateir i apêl gael ei dwyn ynddo.

(5)

Os yw’r awdurdod wedi ei fodloni bod torri’r gofyniad yn peri risg sylweddol, neu y gallai beri risg sylweddol, o niwed i iechyd dynol, caiff yr hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre hefyd wahardd triniaeth arbennig rhag cael ei rhoi, hyd nes bod y camau a bennir o dan is-adran (3)(c) wedi eu cymryd, yn y fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu (yn ôl y digwydd) yn y cerbyd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(6)

Nid oes achos am drosedd o dan adran 82 i gael ei gychwyn yn erbyn P yn ystod y cyfnod cydymffurfio mewn cysylltiad—

(a)

â’r toriad a arweiniodd at yr hysbysiad, neu

(b)

ag unrhyw barhad yn y toriad hwnnw.

(7)

Os yw’r camau a bennir mewn hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre wedi eu cymryd yn ystod y cyfnod cydymffurfio, nid oes achos am drosedd o dan adran 82 i gael ei gychwyn yn erbyn P mewn cysylltiad—

(a)

â’r toriad a arweiniodd at yr hysbysiad, neu

(b)

ag unrhyw barhad yn y toriad hwnnw cyn i’r camau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd.

(8)

Ond nid oes dim byd yn is-adran (6) neu (7) sy’n atal achos am drosedd o dan adran 82 rhag cael ei gychwyn, ar unrhyw adeg, mewn cysylltiad â thorri gwaharddiad ar roi triniaeth sydd wedi ei gynnwys mewn hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre o dan is-adran (5).

(9)

Os yw hysbysiad camau adfer ar gyfer mangre a roddir i berson yn gwahardd rhoi triniaeth arbennig fel y’i disgrifir yn is-adran (5), rhaid i’r awdurdod a’i rhoddodd gymryd camau rhesymol i ddwyn yr hysbysiad i sylw unrhyw bersonau y mae’r awdurdod yn meddwl ei fod yn debygol o effeithio arnynt.