RHAN 4TRINIAETHAU ARBENNIG

Cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd

75Dyletswydd i gynnal cofrestr o drwyddedau triniaeth arbennig a mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd

(1)

Rhaid i awdurdod lleol gynnal a chyhoeddi cofrestr—

(a)

o’r trwyddedau triniaeth arbennig sydd wedi eu dyroddi ganddo ond nad ydynt wedi peidio â chael effaith eto, a

(b)

o’r mangreoedd a’r cerbydau sydd wedi eu cymeradwyo ganddo ar hyn o bryd o dan adran 70.

(2)

Rhaid i bob cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â thrwydded gofnodi—

(a)

enw deiliad y drwydded;

(b)

y dyddiad y dyroddwyd y drwydded;

(c)

y driniaeth y mae’r drwydded yn awdurdodi iddi gael ei rhoi;

(d)

cyfnod y drwydded;

(e)

yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn mangre o fewn adran 59(3), gyfeiriad y fangre lle yr awdurdodir i’r driniaeth gael ei rhoi;

(f)

yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) sydd â rhif cofrestru, rif cofrestru’r cerbyd;

(g)

yn achos trwydded sy’n awdurdodi i driniaeth gael ei rhoi mewn cerbyd o fewn adran 59(3) nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol.

(3)

Rhaid i bob cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â mangre neu gerbyd a gymeradwywyd gofnodi—

(a)

enw’r person y rhoddwyd y cymeradwyaeth ar ei gais;

(b)

yn achos cofnod mewn cysylltiad â mangre, gyfeiriad y fangre;

(c)

yn achos cofnod mewn cysylltiad â cherbyd sydd â rhif cofrestru, rif cofrestru’r cerbyd;

(d)

yn achos cofnod mewn cysylltiad â cherbyd nad oes ganddo rif cofrestru, pa fanylion adnabod bynnag am y cerbyd y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol;

(e)

y driniaeth y mae’r gymeradwyaeth yn gymwys mewn cysylltiad â hi;

(f)

y dyddiad y rhoddwyd y gymeradwyaeth;

(g)

cyfnod para’r gymeradwyaeth.

(4)

Caiff y gofrestr hefyd gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r awdurdod sy’n ei chynnal yn ystyried ei bod yn briodol.

(5)

Caiff Gweinidogion Cymru drefnu i’r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan yr adran hon gael eu cyflawni drwy gofrestr ganolog a gedwir gan awdurdod lleol a benodir yn unol â’r trefniadau.

(6)

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd rhan mewn unrhyw drefniadau a wneir o dan is-adran (5) ac iddynt gyfrannu at gost y trefniadau hynny.

(7)

Caiff y gofynion y caniateir iddynt gael eu gosod ar awdurdod o dan is-adran (6) gynnwys (ymhlith pethau eraill) gofyniad i rannu gwybodaeth â’r awdurdod a benodir i gadw’r gofrestr ganolog.

(8)

At ddibenion yr adran hon, mae “cofrestr ganolog” yn gofrestr sy’n cwmpasu ardaloedd pob awdurdod lleol.